top of page

 

Mr. Noel Jones , Prifathro

 

Fy Atgofion o Ysgol Stryd Y Rhos


Er na fum yn ddisgybl yn Ysgol Stryd y Rhos, roedd gennyf gysylltiad agos a’r ysgol ers yn ifanc, oherwydd buodd fy nhad John Albert Jones yn prif athro yno am rhai blynyddoedd. 


Mi ddeuthum yn brif athro fy hyn yn yr ysgol yn 1961. Yr adeg honno ‘roedd dwy ysgol o dan yr un to, ysgol y babanod i rai 4 i 7 mlwydd oed ac ysgol i  rai 7 i 11eg. Prif athro ar yr ysgol hyn oeddwn ni. Miss Gwyneth Owen oedd y Brifathrawes yn ysgol y babanod. ‘Roedd cyd weithriad da rhyngom. Fe ddoes i yn Brif Athro ar y ddwy ysgol yn 1984 pan adawodd Miss Owen.


I ddechrau roeddwn yn dysgu llawn amser a roedd rhyw 80 o ddisgyblion, ond fe aeth y rhifoedd I fyny i 200 ar un adeg. Aeth y niferoedd i lawr pan sefydlwyd Ysgol Penbarras.


Pan es i’r ysgol yr athrawon oedd Dilys Jones, Annie James a Manon Davies. Fel aeth yr amser ymlaen ‘roedd newid a daeth Emyr Gwyn Jones a Mr Humphries i gyd weithio.


Dosbarthiadau cymysg eu iaith oedd yn yr ysgol a buodd Geraint Lloyd Jones, John Y Galchog, Ceri Thomas, Helen Williams, ac Eurwen Carrington yn aelodau o’r staff. Roedd her arbennig yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. 


Penderfynnwyd mewn amser ac ar ol llawer o berswad i agor ysgol lle byddai y Gymraeg yn iaith gyntaf. Fe agorodd Ysgol Penbaras ac fe’i lleolwyd  drws nesa i Stryd y Rhos mewn adeiladau dros dro. Buais yn gweithio’n glos ac yn ymarferol hefo Alun Edwards y Prifathro. Ond mi roeddwn i yn bersonol yn colli’r Cymry yn fawr iawn.


Cafodd hen adeilad Stryd y Rhos ei ail drefnu a’I ehangu. Rhoddwyd llawr newydd yng nghanol yr ysgol. Roedd hyn yn golygu bod mwy o le I ddosbarthadau a hefyd llyfrgell ac ystafell i’r athrawon ymgynyll.


 Symydais innau o dy’r ysgol. Buodd fy rhieni yn byw yno, fel pob prifathro a’I deulu, o’m mlaen i.


Dros y blynyddoedd newidiodd fy ngorchwyl fel Prifathro o fod yn athro llawn amser i  wneud mwy o waith gweinyddol, rhoi cymorth i athrawon a llenwi pan oedd un ohonynt yn absenol neu  os oeddent ar rhyw ddyletswydd.


Buais yn ffodus o gael cefnogaeth dda gan rieni, rheolwyr a swyddogion y Sir. Roedd perthynas dda rhynddom a’r arolygwyr. 
Roedd Ysgol Stryd y Rhos yn un hapus iawn trwy gydol fy amser yno.

​

Noel Jones                                                                                                                                    Gorffenaf 2019

bottom of page